Atodiad 1 – Cylch gorchwyl

Ystyried—

 

1.   egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i wella’r trefniadau ar gyfer rhentu cartref yng Nghymru-

 

Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o’r Bil:

                     i.        Rhan 2 – Contractau meddiannaeth a landlordiaid – gan gynnwys y ddau brif fath o gontract meddiannaeth, natur y contractau y gellir eu gwneud, darpariaethau sylfaenol contractau meddiannaeth, materion allweddol a thelerau ychwanegol contractau meddiannaeth, a chontractau enghreifftiol;

                   ii.        Rhan 3 – Darpariaethau sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth– gan gynnwys datganiadau ysgrifenedig, blaendaliadau a chynlluniau blaendal, deiliaid cyd-gontractau a landlordiaid ar y cyd, yr hawl i feddiannu heb ymyrraeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall, hawliau i ddelio â chontractau meddiannaeth, trosglwyddo ac olyniaeth, caniatâd landlordiaid a digolledu;

                  iii.        Rhan 4 – Cyflwr annedd – gan gynnwys rhwymedigaethau landlord ynghylch cyflwr annedd a hawl landlord i gael mynediad i annedd;

                  iv.        Rhan 5 – Darpariaethau sy’n gymwys i gontractau diogel yn unig– gan gynnwys amrywio contractau, tynnu’n ôl o gyd-gontract, lletywyr, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a throsglwyddo i ddeiliad contract diogel arall;

                    v.        Rhan 6 – Darpariaethau sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol yn unig– gan gynnwys gwahardd am gyfnodau penodedig, amrywio contractau a thynnu’n ôl o gyd-gontractau;

                  vi.        Rhan 7 – Darpariaethau sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodedig yn unig– gan gynnwys gwahardd am gyfnodau penodedig, amrywio contractau, tynnu’n ôl o gyd-gontract, trosglwyddo yn sgil marwolaeth unig ddeiliad contract a throsglwyddo gorfodol;

                 vii.        Rhan 8 – Contractau safonol â chymorth – gan gynnwys symudedd a gwahardd dros dro;

               viii.        Rhan 9 – Dod â chontractau meddiannaeth i ben, ac yn y blaen– gan gynnwys dod â chontract i ben heb hawliad meddiant, dod â phob contract meddiannaeth i ben, dod â chontractau diogel i ben, dod â chontractau safonol cyfnodol i ben, dod â chontractau safonol cyfnod penodedig i ben, hawliadau meddiant, gadael a fforffedu;

                  ix.        Rhan 10 – Amrywiol– gan gynnwys pobl ifanc, rhwymedigaethau ymgynghori landlordiaid cymunedol, tresbaswyr a thenantiaethau a thrwyddedau presennol;

                   x.        Rhan 11 – Darpariaethau terfynol – gan gynnwys dehongliad o’r Ddeddf, cymhwyso i’r Goron, darpariaethau canlyniadol a throsiannol, rheoliadau a chychwyn.

 

2.   unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

3.   a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

4.   goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol;

5.   priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).